Mae melino CNC, neu Felino dan Reolaeth Cyfrifiadur, yn broses o beiriannu lle defnyddir rheolaethau cyfrifiadurol ac offer torri aml-bwynt i gynhyrchu rhan neu gynnyrch pwrpasol. Gellir peiriannu ystod eang o ddefnyddiau a chynhyrchu amrywiaeth o rannau a chynnyrch pwrpasol trwy ddefnyddio’r broses hon.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn gwneud gwaith peiriannydd CNC. Byddan nhw’n dilyn briff penodol ac yn defnyddio offer peiriannu CNC i dorri, drilio, siapio, a gorffen cynhyrchion a chydrannau a ddefnyddir mewn peirianneg a gweithgynhyrchu.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024