Mae seiri coed yn defnyddio eu sgiliau i dorri, gosod, ac adeiladu strwythurau a ffitiadau pren fel toeau, ffenestri a drysau.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd angen i’r cystadleuwyr gwblhau prosiect penodol sydd wedi’i gynllunio i herio eu gallu i ddilyn cyfarwyddiadau manwl, i gynhyrchu gwaith cywir a thaclus, ac i fod yn ddiwastraff â’u deunyddiau o fewn amserlen gaeth – sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu heddiw. Bydd y cystadleuydd yn cael ei farcio ar Iechyd a Diogelwch.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024