Gwaith brics

Mae gosodwr brics yn gosod brics, cerrig wedi'u torri ymlaen llaw, a blociau concrid i adeiladu waliau mewnol ac allanol ar gyfer adeiladau. Gall y math o wal amrywio o waliau plaen i waith mwy cymhleth.

Yn y gystadleuaeth hon, bydd angen i gystadleuwyr gwblhau prosiect penodol sydd wedi’i gynllunio i herio eu gallu. Disgwylir y bydd yr holl gystadleuwyr yn gallu dilyn darluniau, mesur yn gywir, cynllunio eu hamser yn effeithiol, dangos eu gallu gydag offer, cadw gweithfannau yn lân ac yn daclus, a gweithio’n ddiogel trwy’r adeg.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen