Bydd Therapydd Harddwch yn cyflawni ystod o wasanaethau harddwch a gofal croen o safon uchel gan gynnwys triniaethau i’r wyneb, coluro, trin ewinedd y dwylo a’r traed, trin blew amrant ac aeliau; a’r cyfan o dan safonau iechyd a diogelwch gofynnol.
Yn y gystadleuaeth hon, asesir cystadleuwyr ar gyfres o dasgau gan gynnwy, colur ar gyfer dydd a rhoi polish crème coch ar ewinedd.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024