Mae Peiriannydd Awyrennau yn gyfrifol am ofalu am gydrannau awyrennau a systemau awyrennau. Mae’n rhaid iddyn nhw gynnal a chadw, trwsio, gwasanaethu, gosod a phrofi’r cydrannau hanfodol bwysig yma.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd cystadleuwyr yn cyflawni tasg trwsio panel, archwilio awyren a gwirio olwynion awyren. Bydd angen iddyn nhw arddangos y wybodaeth arbenigol sydd gan rywun sy’n mynd mewn i faes Peirianneg Awyrennau, a’r sgiliau uwch sy’n ddisgwyliedig o fewn y diwydiant awyrennau.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024