Cyfrifeg

Prif dasg Cyfrifydd yw paratoi ac archwilio cofnodion ariannol. Maent yn sicrhau bod cofnodion yn gywir a bod trethi'n cael eu talu'n briodol ac mewn pryd. Gallant hefyd archwilio gweithrediadau ariannol busnes i ddod o hyd i ffyrdd i'w helpu i weithredu’n effeithlon.

Yn y gystadleuaeth hon, rhoddir tasgau i gystadleuwyr sy’n adlewyrchu agweddau nodweddiadol ar waith a chyfrifoldebau a gyflawnir gan y rhai sy'n astudio trafodion cadw cyfrifon a rheolaethau cadw cyfrifon. Yn ogystal, mae'n profi sgiliau cyflogadwyedd allweddol eraill gan gynnwys ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig a'r gallu i flaenoriaethu tasgau a gwaith tîm.

Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.

Downloadable files:

View all files


Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024

Nol i dop y dudalen