Mae Artist Gêm Ddigidol 3D yn defnyddio meddalwedd arbenigol i dynnu lluniau ac animeiddio gemau digidol. Mae angen sgiliau creadigol a thechnegol ar lefel uchel arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn darparu gêm sy'n dilyn briff y dylunydd ac a fydd yn werthadwy.
Yn y gystadleuaeth hon, rhaid i gystadleuwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau creadigol a thechnegol sy'n hanfodol o fewn y diwydiant gemau a chreadigol cyfoes.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 25/11/2024