WorldSkills UK Cymru

Mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn cynnig rhwydwaith cefnogol i gystadleuwyr o Gymru sy’n cystadlu mewn cystadlaethau WorldSkills yn genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau technegol i safon fyd-eang.

Mae gennym dîm o Hybwyr Sector ymroddedig sy’n cyfrannu at les Tîm Cymru, ac sy’n cefnogi anghenion hyfforddiant y cystadleuwyr i ddwyn llwyddiant wrth ennill medalau.

Bydd cystadleuwyr sydd wedi ymrwymo i lwyddo a rhagori yn eu maes galwedigaethol yn elwa o gefnogaeth ychwanegol a chael y cyfle i weithio gyda’r Hybwyr Sector i nodi eu hanghenion datblygiad unigol, er mwyn codi eu safonau a’u siawns am lwyddiant yn y dyfodol.

Mae cyflwyniad y prosiect yn ymdrechu i wella llwyddiant cystadleuwyr drwy weithio ar y cyd gyda chystadleuwyr, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr ar draws Cymru. Mae gennym uchelgais i sefydlu ethos ar draws darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i gyflwyno mwy na chymwysterau yn unig a chyflwyno sgiliau sydd o safon fyd-eang, gyda phrofiadau sy'n magu hyder a sgiliau personol.

Ein nod yw gosod Cymru mewn sefyllfa i gael mwy o lwyddiant yn EuroSkills a’r digwyddiadau WorldSkills rhyngwladol, tra’n cefnogi’r weledigaeth o gynyddu GDP Cymru.

Nol i dop y dudalen