Datblygu Rhagoriaeth

Ewch â'ch Addysgu i'r Lefel Nesaf

Mae Datblygu Rhagoriaeth yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r offer ymarferol sydd eu hangen ar addysgwyr ledled Cymru i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Trwy hyfforddiant dan arweiniad arbenigwyr, gweithdai technegol, ac adnoddau o ansawdd uchel, mae'r rhaglen yn cefnogi twf proffesiynol a llwyddiant myfyrwyr. P'un ai eich bod yn newydd i gystadlaethau neu'n gobeithio i adeiladu ar wybodaeth sydd gennych chi eisoes, mae Datblygu Rhagoriaeth yn eich helpu i ymgorffori gweithgaredd cystadleuaeth sgiliau yn hyderus yn eich ymarfer addysgu.

Gweithdai Datblygu Rhagoriaeth 

Mae'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio i helpu addysgwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bodloni gofynion newidiol diwydiant, fel y’u cydnabyddir mewn cystadlaethau rhyngwladol. Yn ogystal â datblygiad proffesiynol, maent yn rhoi adnoddau ymarferol i gefnogi addysgu a helpu dysgwyr i gyflawni'r safonau uchaf – yn y gystadleuaeth ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Cydweithio a Rhannu Gwybodaeth

Mae addysgwyr yng Nghymru hefyd yn cael mynediad at rwydwaith o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn y diwydiant. Trwy ddigwyddiadau, gweminarau, ac adnoddau ar-lein, byddwch yn cael cyfle i gyfnewid arfer gorau, rhannu mewnwelediad, ac archwilio ffyrdd newydd o wella eich addysgu.

Nol i dop y dudalen